Y Salmau 119:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraetham dy farnau di bob amser.

21. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedigsy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.

22. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.

23. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;

24. y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,a hefyd yn gynghorwyr imi.

25. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;adfywia fi yn ôl dy air.

26. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;dysg i mi dy ddeddfau.

Y Salmau 119