Y Salmau 119:155-159 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

155. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus,oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.

156. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;adfywia fi yn ôl dy farn.

157. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.

158. Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiaisam nad ydynt yn cadw dy air.

159. Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.

Y Salmau 119