Y Salmau 119:141-147 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

141. Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod,nid wyf yn anghofio dy ofynion.

142. Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol,ac y mae dy gyfraith yn wirionedd.

143. Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf,ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.

144. Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth;rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.

145. Gwaeddaf รข'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD,ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.

146. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi,ac fe gadwaf dy farnedigaethau.

147. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,a gobeithiaf yn dy eiriau.

Y Salmau 119