Y Salmau 119:120-126 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

120. Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd,ac yr wyf yn ofni dy farnau.

121. Gwneuthum farn a chyfiawnder;paid â'm gadael i'm gorthrymwyr.

122. Bydd yn feichiau er lles dy was;paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu.

123. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,ac am dy addewid o fuddugoliaeth.

124. Gwna â'th was yn ôl dy gariad,a dysg i mi dy ddeddfau.

125. Dy was wyf fi; rho imi ddealli wybod dy farnedigaethau.

126. Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,oherwydd torrwyd dy gyfraith.

Y Salmau 119