Y Salmau 119:101-106 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

101. Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg,er mwyn imi gadw dy air.

102. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.

103. Mor felys yw dy addewid i'm genau,melysach na mêl i'm gwefusau.

104. O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

105. Y mae dy air yn llusern i'm troed,ac yn oleuni i'm llwybr.

106. Tyngais lw, a gwneud addunedi gadw dy farnau cyfiawn.

Y Salmau 119