Y Salmau 119:100-104 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

100. Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen,oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.

101. Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg,er mwyn imi gadw dy air.

102. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.

103. Mor felys yw dy addewid i'm genau,melysach na mêl i'm gwefusau.

104. O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

Y Salmau 119