Y Salmau 118:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,ac y mae ei gariad hyd byth.

2. Dyweded Israel yn awr,“Y mae ei gariad hyd byth.”

3. Dyweded tŷ Aaron yn awr,“Y mae ei gariad hyd byth.”

4. Dyweded y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,“Y mae ei gariad hyd byth.”

5. O'm cyfyngder gwaeddais ar yr ARGLWYDD;atebodd yntau fi a'm rhyddhau.

6. Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf;beth a wna pobl i mi?

Y Salmau 118