Y Salmau 116:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD:“Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.”

5. Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn,ac y mae ein Duw ni'n tosturio.

6. Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml;pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.

7. Gorffwysa unwaith eto, fy enaid,oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;

8. oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau,fy llygaid rhag dagrau,fy nhraed rhag baglu.

Y Salmau 116