Y Salmau 116:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrandoar lef fy ngweddi,

2. am iddo droi ei glust atafy dydd y gwaeddais arno.

3. Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf,a gefynnau Sheol wedi fy nal,a minnau'n dioddef adfyd ac ing.

4. Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD:“Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.”

5. Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn,ac y mae ein Duw ni'n tosturio.

6. Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml;pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.

Y Salmau 116