Y Salmau 115:2-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud,“Ple mae eu Duw?”

3. Y mae ein Duw ni yn y nefoedd;fe wna beth bynnag a ddymuna.

4. Arian ac aur yw eu delwau hwy,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

5. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;

6. y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,a ffroenau nad ydynt yn arogli;

7. y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo,a thraed nad ydynt yn cerdded;ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.

8. Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.

9. O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.

Y Salmau 115