Y Salmau 115:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,y bychan a'r mawr fel ei gilydd.

14. Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau,chwi a'ch plant hefyd.

15. Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDDa wnaeth nefoedd a daear.

16. Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw,ond fe roes y ddaear i ddynolryw.

17. Nid yw'r meirw yn moliannu'r ARGLWYDD,na'r holl rai sy'n mynd i lawr i dawelwch.

Y Salmau 115