Y Salmau 114:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Edrychodd y môr a chilio,a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.

4. Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,a'r bryniau fel ŵyn.

5. Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio,a'r Iorddonen, dy fod yn troi'n ôl?

6. Pam, fynyddoedd, yr ydych yn neidio fel hyrddod,a chwithau'r bryniau, fel ŵyn?

7. Cryna, O ddaear, ym mhresenoldeb yr Arglwydd,ym mhresenoldeb Duw Jacob,

Y Salmau 114