Y Salmau 109:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Apwyntier un drwg yn ei erbyn,a chyhuddwr i sefyll ar ei dde.

7. Pan fernir ef, caffer ef yn euog,ac ystyrier ei weddi'n bechod.

8. Bydded ei ddyddiau'n ychydig,a chymered arall ei swydd;

9. bydded ei blant yn amddifada'i wraig yn weddw.

10. Crwydred ei blant i gardota—wedi eu troi allan o'u hadfeilion.

11. Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo,a dyged estroniaid ei enillion.

Y Salmau 109