Y Salmau 109:21-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw,gweithreda drosof er mwyn dy enw;oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.

22. Yr wyf yn druan a thlawd,a'm calon mewn gwewyr ynof.

23. Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;fe'm gyrrir ymaith fel locust.

24. Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,a'm corff yn denau o ddiffyg braster.

25. Deuthum yn gyff gwawd iddynt;pan welant fi, ysgydwant eu pennau.

26. Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,achub fi yn ôl dy drugaredd,

27. a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw,mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

28. Pan fônt hwy'n melltithio, bendithia di;cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.

29. Gwisger fy nghyhuddwyr â gwarth;bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.

30. Clodforaf fi yr ARGLWYDD â'm genau,a moliannaf ef yng ngŵydd cynulleidfa.

31. Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd,i'w achub rhag ei gyhuddwyr.

Y Salmau 109