Y Salmau 106:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Bu iddynt gythruddo'r Arglwydd hefyd wrth ddyfroedd Meriba,a bu'n ddrwg ar Moses o'u plegid,

33. oherwydd gwnaethant ei ysbryd yn chwerw,ac fe lefarodd yntau yn fyrbwyll.

34. Ni fu iddynt ddinistrio'r bobloeddy dywedodd yr ARGLWYDD amdanynt,

35. ond cymysgu gyda'r cenhedloedd,a dysgu gwneud fel hwythau.

36. Yr oeddent yn addoli eu delwau,a bu hynny'n fagl iddynt.

Y Salmau 106