Y Salmau 105:36-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad,blaenffrwyth eu holl nerth.

37. Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur,ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.

38. Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan,oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.

39. Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio,a thân i oleuo iddynt yn y nos.

40. Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt,a digonodd hwy â bara'r nefoedd.

41. Holltodd graig nes bod dŵr yn pistyllio,ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.

42. Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaiddi Abraham ei was.

Y Salmau 105