Y Salmau 105:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd;llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.

4. Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,ceisiwch ei wyneb bob amser.

5. Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,

6. chwi ddisgynyddion Abraham, ei was,disgynyddion Jacob, ei etholedig.

7. Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.

8. Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth,gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,

9. sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,a'i lw i Isaac—

Y Salmau 105