Y Salmau 105:29-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Trodd eu dyfroedd yn waed,a lladdodd eu pysgod.

30. Llanwyd eu tir â llyffaint,hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.

31. Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfeda llau trwy'r holl wlad.

32. Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw,a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.

33. Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd,a malurio'r coed trwy'r wlad.

34. Pan lefarodd ef, daeth locustiaida lindys heb rifedi,

35. nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad,a difa holl gynnyrch y ddaear.

Y Salmau 105