Y Salmau 105:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw,gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

2. Canwch iddo, moliannwch ef,dywedwch am ei holl ryfeddodau.

3. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd;llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.

4. Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,ceisiwch ei wyneb bob amser.

5. Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,

Y Salmau 105