Y Salmau 104:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Gan dy gerydd di fe ffoesant,gan sŵn dy daranau ciliasant draw,

8. a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,i'r lle a bennaist ti iddynt;

9. rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.

10. Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;

11. rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;

12. y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl,ac yn trydar ymysg y canghennau.

13. Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas;digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth.

Y Salmau 104