Y Salmau 102:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio trwy'r amser,a'm gwatwarwyr yn defnyddio fy enw fel melltith.

9. Yr wyf yn bwyta lludw fel bara,ac yn cymysgu fy niod รข dagrau,

10. o achos dy lid a'th ddigofaint,oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu.

11. Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.

12. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,a phery dy enw dros y cenedlaethau.

13. Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;y mae'n adeg i dosturio wrthi,oherwydd fe ddaeth yr amser.

Y Salmau 102