Y Salmau 102:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.

12. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,a phery dy enw dros y cenedlaethau.

13. Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;y mae'n adeg i dosturio wrthi,oherwydd fe ddaeth yr amser.

14. Y mae dy weision yn hoffi ei meini,ac yn tosturio wrth ei llwch.

15. Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD,a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.

16. Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion,bydd yn ymddangos yn ei ogoniant;

17. bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig,ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad.

18. Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod,fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD:

19. ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd,i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear,

20. i wrando ocheneidiau carcharoriona rhyddhau'r rhai oedd i farw,

21. fel bod cyhoeddi enw'r ARGLWYDD yn Seion,a'i foliant yn Jerwsalem,

22. pan fo pobloedd a theyrnasoeddyn ymgynnull ynghyd i addoli'r ARGLWYDD.

23. Y mae wedi sigo fy nerth ar y daith,ac wedi byrhau fy nyddiau.

Y Salmau 102