Y Salmau 101:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder;i ti, ARGLWYDD, y pynciaf gerdd.

2. Rhof sylw i'r ffordd berffaith;pa bryd y deui ataf?Rhodiaf â chalon gywirymysg fy nhylwyth;

3. ni osodaf fy llygaidar ddim annheilwng.Cas gennyf yr un sy'n twyllo;nid oes a wnelwyf ddim ag ef.

4. Bydd y gwyrgam o galon yn troi oddi wrthyf,ac ni fyddaf yn cymdeithasu â'r drwg.

Y Salmau 101