Y Salmau 10:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Troellog yw ei ffyrdd bob amser,y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.

6. Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”

7. Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.

8. Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi,ac yn lladd y diniwed yn y dirgel;gwylia ei lygaid am yr anffodus.

9. Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;llecha er mwyn llarpio'r truan,ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;

10. caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo,ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.

11. Dywed yntau ynddo'i hun, “Anghofiodd Duw,cuddiodd ei wyneb ac ni wêl ddim.”

12. Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;nac anghofia'r anghenus.

13. Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw,ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?

Y Salmau 10