Y Salmau 10:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.

4. Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio,nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.

5. Troellog yw ei ffyrdd bob amser,y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.

6. Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”

7. Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.

Y Salmau 10