Y Pregethwr 7:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Y mae'n well mynd i dŷ galarna mynd i dŷ gwledd;oherwydd marw yw tynged pawb,a dylai'r byw ystyried hyn.

3. Y mae tristwch yn well na chwerthin;er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.

4. Y mae calon y doethion yn nhŷ galar,ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.

5. Y mae'n well gwrando ar gerydd y doethna gwrando ar gân ffyliaid.

6. Oherwydd y mae chwerthin y ffŵlfel clindarddach drain o dan grochan.Y mae hyn hefyd yn wagedd.

7. Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd,ac y mae cildwrn yn llygru'r meddwl.

Y Pregethwr 7