Y Pregethwr 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr,a dydd marw yn well na dydd geni.

2. Y mae'n well mynd i dŷ galarna mynd i dŷ gwledd;oherwydd marw yw tynged pawb,a dylai'r byw ystyried hyn.

3. Y mae tristwch yn well na chwerthin;er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.

4. Y mae calon y doethion yn nhŷ galar,ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.

Y Pregethwr 7