Y Pregethwr 4:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

5. Y mae'r ffôl yn plethu ei ddwylo, ac yn ei ddifa'i hun.

6. Gwell yw llond un llaw mewn llonyddwch na llond dwy law mewn gofid ac ymlid gwynt.

7. Unwaith eto gwelais y gwagedd sydd dan yr haul:

Y Pregethwr 4