Y Pregethwr 3:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Dywedais wrthyf fy hun, “Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid.”

19. Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.

20. Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.

21. Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?

Y Pregethwr 3