Y Pregethwr 2:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Beth a gaiff neb am yr holl lafur a'r ymdrech a gyflawnodd dan yr haul?

23. Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

24. Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw;

25. oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef?

Y Pregethwr 2