Y Pregethwr 12:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Cofia amdano cyn torri'r llinyn arian a darnio'r llestr aur, cyn malurio'r piser wrth y ffynnon a thorri'r olwyn wrth y pydew,

7. cyn i'r llwch fynd yn ôl i'r ddaear lle bu ar y cychwyn, a chyn i'r ysbryd ddychwelyd at y Duw a'i rhoes.

8. “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd yw'r cyfan.”

9. Yn ogystal â'i fod ef ei hun yn ddoeth, yr oedd y Pregethwr yn dysgu deall i'r bobl, yn pwyso a chwilio, ac yn gosod mewn trefn lawer o ddiarhebion.

Y Pregethwr 12