Y Pregethwr 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi,felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd.

2. Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde,ond calon y ffôl yn ei droi i'r chwith.

3. Pan yw'r ffôl yn cerdded ar y ffordd,nid oes synnwyr ganddo,ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd.

4. Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn,paid ag ymddiswyddo;y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr.

Y Pregethwr 10