Y Pregethwr 1:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam,na chyfrif yr hyn sydd ar goll.

16. Dywedais wrthyf fy hun, “Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth.”

17. Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt.

18. Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid,ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.

Y Pregethwr 1