Seffaneia 1:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,yn agos ac yn dod yn gyflym;chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.

15. Dydd dicter yw'r dydd hwnnw,dydd blinder a gofid,dydd dinistr a difrod,dydd tywyllwch a düwch,dydd cymylau a chaddug,

16. dydd utgorn a bloedd rhyfelyn erbyn y dinasoedd caerogac yn erbyn y tyrau uchel.

Seffaneia 1