Sechareia 14:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw'n mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.

20. Ar y dydd hwnnw, bydd “Sanctaidd i'r ARGLWYDD” wedi ei ysgrifennu ar glychau'r meirch, a bydd y cawgiau yn nhŷ'r ARGLWYDD fel y dysglau o flaen yr allor;

21. a bydd pob cawg yn Jerwsalem a Jwda yn sanctaidd i ARGLWYDD y Lluoedd, a bydd pob un sy'n dod i aberthu yn cymryd un ohonynt i ferwi cig. Ni fydd marchnatwr yn nhŷ ARGLWYDD y Lluoedd ar y dydd hwnnw.

Sechareia 14