Sechareia 13:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. ond dywed, ‘Nid proffwyd wyf fi, ond dyn yn trin tir, a'r tir yn gynhaliaeth imi o'm hieuenctid.’

6. Os dywed rhywun wrtho, ‘Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?’ fe etyb, ‘Fe'u cefais yn nhŷ fy nghyfeillion.’ ”

7. “Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail,ac yn erbyn y gŵr sydd yn f'ymyl,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Taro'r bugail, a gwasgerir y praidd,a rhof fy llaw yn erbyn y rhai bychain.

8. Yn yr holl dir,” medd yr ARGLWYDD,“trewir dwy ran o dair, a threngant,a gadewir traean yn fyw.

9. A dygaf y drydedd ran trwy dân,a'u puro fel y purir arian,a'u profi fel y profir aur.Byddant yn galw ar f'enw,a minnau fy hun yn ateb;dywedaf fi, ‘Fy mhobl ydynt’,a dywedant hwy, ‘Yr ARGLWYDD yw ein Duw’.”

Sechareia 13