Sechareia 13:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Yn y dydd hwnnw bydd ffynnon wedi ei hagor i linach Dafydd ac i drigolion Jerwsalem, ar gyfer pechod ac aflendid.

2. Yn y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “torraf ymaith enwau'r eilunod o'r tir, ac ni chofir hwy mwyach; symudaf hefyd o'r tir y proffwydi ac ysbryd aflendid.

3. Ac os cyfyd un i broffwydo eto, fe ddywed ei dad a'i fam a'i cenhedlodd, ‘Ni chei fyw, am iti lefaru twyll yn enw'r ARGLWYDD’, a bydd ei dad a'i fam a'i cenhedlodd yn ei ladd wrth iddo broffwydo.

4. Yn y dydd hwnnw bydd ar bob proffwyd gywilydd o'i weledigaeth wrth broffwydo, ac ni fydd yn gwisgo mantell o flew er mwyn twyllo,

5. ond dywed, ‘Nid proffwyd wyf fi, ond dyn yn trin tir, a'r tir yn gynhaliaeth imi o'm hieuenctid.’

6. Os dywed rhywun wrtho, ‘Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?’ fe etyb, ‘Fe'u cefais yn nhŷ fy nghyfeillion.’ ”

Sechareia 13