1. Gofynnwch i'r ARGLWYDD am lawyn nhymor glaw'r gwanwyn;yr ARGLWYDD sy'n gwneud y cymylau trymiona'r cawodydd glaw,ac yn rhoi gwellt y maes i bawb.
2. Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd,a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd;cyhoeddant freuddwydion twyllodrus,a chynnig cysur gwag.Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid,yn druenus am eu bod heb fugail.
3. “Enynnodd fy llid yn erbyn y bugeiliaid,a dygaf gosb ar arweinwyr y praidd;oherwydd gofala ARGLWYDD y Lluoedd am ei braidd, tŷ Jwda,a'u gwneud yn farch-rhyfel balch.
4. Ohonynt hwy y daw'r conglfaen a hoelen y babell;ohonynt hwy y daw'r bwa rhyfel;ohonynt hwy y daw pob cadfridog.
5. Byddant gyda'i gilydd fel rhyfelwyryn sathru'r heolydd lleidiog yn y frwydr;brwydrant am fod yr ARGLWYDD gyda hwy,a pharant gywilydd i farchogion.
6. Gwnaf dŷ Jwda yn nerthol,a gwaredaf dŷ Joseff;dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt,a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod;oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf.