Rhufeiniaid 9:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.”

18. Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.

19. Ond fe ddywedi wrthyf, “Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?”

Rhufeiniaid 9