Rhufeiniaid 6:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod.

7. Oherwydd y mae'r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.

8. Ac os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd,

9. a ninnau'n gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef.

10. Yn gymaint ag iddo farw, i bechod y bu farw, un waith am byth; yn gymaint รข'i fod yn fyw, i Dduw y mae'n byw.

11. Felly, yr ydych chwithau i'ch cyfrif eich hunain fel rhai sy'n farw i bechod, ond sy'n fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu.

Rhufeiniaid 6