Rhufeiniaid 4:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef?

2. Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim.

3. Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.”

4. Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus.

5. Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder.

6. Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith:

7. “Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau,ac y cuddiwyd eu pechodau;

8. gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn.”

9. Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, “cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder”.

10. Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar ôl enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei ôl.

Rhufeiniaid 4