Rhufeiniaid 11:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!

34. Oherwydd,“Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd?Pwy a fu'n ei gynghori ef?

35. Pwy a achubodd y blaen arno â rhodd,i gael rhodd yn ôl ganddo?”

36. Oherwydd ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.

Rhufeiniaid 11