Philipiaid 3:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. fel y caf i rywfodd, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.

12. Nid fy mod eisoes wedi cael hyn, neu fy mod eisoes yn berffaith, ond yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu'r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gan Grist Iesu.

13. Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio'r hyn sydd o'r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o'r tu blaen,

14. yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.

15. Pob un ohonom, felly, sydd ymhlith y rhai aeddfed, dyma sut y dylai feddwl. Ond os ydych o wahanol feddwl am rywbeth, fe ddatguddia Duw hyn hefyd ichwi.

16. Ond gadewch inni ymddwyn yn unol รข'r safon yr ydym wedi ei chyrraedd.

Philipiaid 3