Philipiaid 2:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Oherwydd nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef, i gymryd gwir ofal am eich buddiannau chwi;

21. y maent oll â'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist.

22. Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl.

23. Dyma'r gŵr, ynteu, yr wyf yn gobeithio'i anfon, cyn gynted byth ag y caf weld sut y bydd hi arnaf.

Philipiaid 2