Philipiaid 2:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi.

19. Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi.

20. Oherwydd nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef, i gymryd gwir ofal am eich buddiannau chwi;

21. y maent oll â'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist.

22. Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl.

Philipiaid 2