Philipiaid 2:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau â chwi i gyd.

18. Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi.

19. Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi.

20. Oherwydd nid oes gennyf neb o gyffelyb ysbryd iddo ef, i gymryd gwir ofal am eich buddiannau chwi;

21. y maent oll â'u bryd ar eu dibenion eu hunain, nid ar ddibenion Iesu Grist.

Philipiaid 2