Numeri 7:37-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

38. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

39. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

40. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

Numeri 7