Numeri 7:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda.

13. Ei offrwm ef oedd: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

14. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

15. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

Numeri 7