Numeri 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd gŵr neu wraig yn gwneud adduned i ymgysegru i'r ARGLWYDD fel Nasaread,

3. y mae i gadw oddi wrth win a diod feddwol; nid yw i yfed ychwaith ddim a wnaed o rawnwin neu o ddiod feddwol, ac nid yw i fwyta'r grawnwin, boed yn ir neu'n sych.

4. Trwy gydol ei gyfnod fel Nasaread nid yw i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, hyd yn oed yr egin na'r croen.

Numeri 6