Numeri 4:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. “Eleasar fab Aaron yr offeiriad fydd yn gofalu am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth peraidd, y bwydoffrwm rheolaidd ac olew'r eneinio; ac ef fydd yn goruchwylio'r tabernacl cyfan a'i gynnwys, y cysegr a'i lestri.”

17. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

18. “Peidiwch â gadael i lwyth teuluoedd y Cohathiaid gael eu torri ymaith o blith y Lefiaid.

19. Dyma a wnewch â hwy, os ydynt am fyw ac nid marw wrth ddynesu at y pethau mwyaf cysegredig: gadewch i Aaron a'i feibion fynd i mewn a rhoi i bob un ei waith a'i orchwyl;

20. ond nid yw'r Cohathiaid i edrych o gwbl ar y pethau cysegredig, rhag iddynt farw.”

21. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

22. “Gwna gyfrifiad hefyd o feibion Gerson, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd;

Numeri 4